Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 15 Mai 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:05 - 10:08 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=cy_200000_15_05_2012&t=0&l=cy
|
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Joyce Watson (Cadeirydd) Russell George Simon Thomas (yn lle Bethan Jenkins) Kirsty Williams (yn lle William Powell) |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Abigail Phillips (Clerc) Sarita Marshall (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Ethol Cadeirydd Dros Dro
Galwodd y Clerc am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd dros dro, yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
Enwebodd Russell George Joyce Watson, a gafodd ei eilio gan Kirsty Williams. Nid oedd unrhyw enwebiadau eraill. Etholwyd Joyce Watson yn Gadeirydd.
2. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Cafwyd ymddiheuriadau gan William Powell a Bethan Jenkins. Roedd Kirsty Williams yn dirprwyo ar ran William Powell ac roedd Simon Thomas yn dirprwyo ar ran Bethan Jenkins.
3. P-03-238 Llygredd ym Mornant Porth Tywyn - Trafod y dystiolaeth
Datganodd Joyce Watson fuddiant gan fod y deisebydd yn aelod o’i staff cymorth.
Cytunodd y Pwyllgor i lunio adroddiad byr ar y pwnc ac i wneud cais am ddadl yn y Cyfarfod Llawn.
4. P-04-341 Llosgi gwastraff - Trafod y dystiolaeth
Cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r eitem hon tan ar ôl iddo glywed tystiolaeth gan yr Athro Vyvyan Howard ar 29 Mai.
5. P-03-295 Kyle Beere - Gwasanaethau Niwroadsefydlu Paediatrig - Trafod y dystiolaeth
Cytunodd y Pwyllgor i gyfeirio’r ddeiseb hon at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac yna ei chau.
6. Deisebau newydd
6.1P-04-389 Y Celfyddydau, Amaethyddiaeth a Dafad y Cynulliad
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Llywydd yn gofyn am ei barn ar y pwnc.
6.2P-04-390 Dynodi Gwarchodfa Natur Penrhos Caergybi (parc arfordir) yn Warchodfa Natur Genedlaethol
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i:
Ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i ofyn am ei farn ar y pwnc, ac
Ysgrifennu at Gyngor Sir Ynys Môn i ofyn am ei farn ar y pwnc.
6.3P-04-391 Ffordd osgoi Llandeilo
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i ofyn am ei farn ar y pwnc.
6.4P-04-392 Deiseb ar Drafnidiaeth Gymunedol
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i:
Grwpio’r ddeiseb hon gyda deiseb arall a gafwyd ar drafnidiaeth gymunedol;
Tynnu sylw’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau at ba mor gryf yw’r farn ar y pwnc hwn, gan ei fod yn ystyried trafnidiaeth gymunedol ar hyn o bryd.
7. Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
7.1P-04-355 Cymru nid Wales
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater hwn. Gan ystyried bod y Prif Weinidog a’r Llywydd wedi datgan nad ydynt yn bwriadu defnyddio ‘Cymru’ yn lle ‘Wales’, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.
7.2P-04-379 Diwrnod Coffáu Hil-laddiad yr Armeniaid
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater hwn. O ystyried yr ohebiaeth hon a’r ffaith y gall Aelodau unigol gyflwyno dadl a arweinir gan Aelod ar y mater os ydynt yn dymuno, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at yr Aelodau a lofnododd y Datganiad Barn ar y pwnc hwn a chau’r ddeiseb.
7.3P-03-271 Ardrethi Busnes yn Arberth
7.4P-03-286 Ardrethi Busnes Ceredigion
Yn dilyn cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar adfywio canol trefi, a oedd yn cynnwys ystyried y deisebau hyn, cytunodd y Pwyllgor i:
Sicrhau bod Cadeirydd y gweithgor sydd wrthi’n adolygu ardrethi busnes yng Nghymru yn ymwybodol o’r deisebau; a
Chau’r deisebau.
7.5P-03-307 Dylunio er mwyn arloesi yng Nghymru
O ystyried bod y Llywodraeth wrthi’n ymgynghori ar strategaeth arloesi i Gymru, cytunodd y Pwyllgor i anfon y ddeiseb ymlaen i ymgynghoriad y Llywodraeth a chau’r ddeiseb.
7.6P-04-364 Ffibr optig i ardaloedd gwledig
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r mater hwn a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am amserlen ar gyfer cyflwyno band eang y genhedlaeth nesaf i bob safle preswyl a busnes erbyn 2015, yn arbennig y rhai mewn ardaloedd gwledig.
7.7P-03-315 Deiseb i gael croesfan newydd dros Afon Dyfi
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater hwn a chytunodd i:
Ysgrifennu at ddeisebwyr, yn eu hannog i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus, a fydd yn cael ei gynnal yn hydref 2013; a
Chadw’r ddeiseb ar agor hyd nes bydd canlyniadau’r ymgynghoriad hwnnw’n hysbys.
7.8P-03-309 Caerdydd yn erbyn y llosgydd
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater hwn a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i weld a ddilynwyd y broses gynllunio ar gyfer y llosgydd yn gywir.
7.9P-04-343 Atal dinistrio mwynderau ar dir comin
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater hwn a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i ofyn a oedd, neu a ddylai fod, y gwaith a wnaed ar Dir Comin Marian yn amodol ar gyfeiriad sgrinio o dan Reoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol) (Cymru) 2007 neu unrhyw reoliadau perthnasol eraill.
7.10 P-04-344 Carthffos gyhoeddus yn Freshwater East
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater hwn a chytunodd i aros am ganlyniad arolwg Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a gynhelir ym mis Mai/Mehefin 2012.
7.11 P-04-374 Cadw cŵn ar dennyn bob amser mewn mannau cyhoeddus
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater hwn. O ystyried gohebiaeth y Gweinidog, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb hon.
7.12 P-04-378 Ymestyn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater hwn. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gyngor Cefn Gwlad Cymru yn gofyn am roi blaenoriaeth i’r ystyriaeth i ymestyn ardal o harddwch naturiol eithriadol Gŵyr cyn gynted ag sy’n gyfleus.
7.13 P-04-383 Yn erbyn dynodiad Parth Perygl Nitradau ar gyfer Llyn Llangors
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater a chytunodd i aros i’r Gweinidog gyhoeddi ei benderfyniad ar ba ardaloedd a fydd yn cael eu dynodi yn barthau perygl nitradau.
7.14 P-04-346 Gofal di-dâl i blant 3 a 4 oed yng Nghymru
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater hwn a chytunodd i wahodd y Gweinidog a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i roi tystiolaeth lafar ar sut mae darpariaeth addysg blynyddoedd cynnar yn ystyried anghenion rhieni sy’n gweithio.
7.15 P-04-376 Ail-drefnu Addysg ym Mhowys
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater hwn a chytunodd i ohirio ystyried y ddeiseb hyd nes y ceir rhagor o wybodaeth gan Kirsty Williams AC.
7.16 P-03-294 Clymblaid Genedlaethol Menywod Cymru
Datganodd Joyce Watson fuddiant gan ei bod yn arfer rhedeg Clymblaid Menywod Cymru.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater hwn a chytunodd i anfon y datganiad a wnaed gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ i Amcanion Cydraddoldeb a Chynllun Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru.
7.17 P-03-085 Meddygfeydd yn Sir y Fflint
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater hwn a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i’w hannog i gefnogi trafodaethau rhwng y pleidiau, o ystyried yr awgrym gan Mark Isherwood AC bod y sefyllfa yn dod yn ‘anniogel yn glinigol’.
7.18 P-04-342 Nyrsys MS
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater hwn ac, o ystyried sylwadau’r deisebwyr eu bod yn fodlon ar sicrwydd y Gweinidog, cytunodd i gau’r ddeiseb.
7.19 P-04-362 Gwasanaethau Ambiwlans ym Mynwy
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater hwn. Cytunodd y Pwyllgor i gyfeirio’r ddeiseb a’r dystiolaeth ategol at Archwilydd Cyffredinol Cymru ac i ohirio ystyried y ddeiseb tan fydd yr Archwilydd Cyffredinol wedi cwblhau ei waith ar wasanaethau gofal heb ei drefnu.
7.20 P-04-367 Achub ein Gwasanaethau Ysbyty
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y mater hwn a chytunodd i:
Grwpio deisebau eraill ar y mater hwn er mwyn eu hystyried;
Ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Hywel Dda i sicrhau ei fod yn ymwybodol o ba mor gryf yw’r farn ar y pwnc; a
Sicrhau bod deisebwyr yn ymwybodol bod ymgynghoriad yn mynd rhagddo gan Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda.
7.21 P-04-368 Annog gweithgarwch corfforol ac iechyd mewn colegau Addysg Bellach
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y mater ac, o ystyried ymateb y Gweinidog, cytunodd i:
Anfon yr ymatebion i’r ymgynghoriad a gafwyd ar y pwnc er mwyn i’r swyddogion sy’n gyfrifol am ymestyn Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru i mewn i golegau eu hystyried; a
Chau’r ddeiseb.
7.22 P-04-375 Rhoi Terfyn ar System Eithrio ar gyfer Rhoi Organnau
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y mater hwn a chytunodd i:
Ysgrifennu at y deisebydd yn amlinellu’r ffaith bod y ddeddfwriaeth i’w chyhoeddi ar ffurf drafft a bydd cyfle i roi sylwadau adeg hynny;
Gofyn i’r deisebydd a yw’n fodlon i’r ddeiseb gael ei chau.
7.23 P-03-197 Achub y Vulcan
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y mater a chytunodd i:
Ysgrifennu at y datblygwyr dan sylw ac i Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan i gadarnhau’r sefyllfa bresennol; a
Chau’r ddeiseb ar ôl i’r sefyllfa gael ei chadarnhau.
7.24 P-04-381 Adfer Ysbyty Gogledd Cymru
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r mater hwn. O ystyried ymateb y Gweinidog, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy ynghylch amddiffyn ystlumod ar y safle.
8. Papurau i'w nodi
8.1P-03-170 Cynyddu nifer y bobl ag anableddau dysgu a gyflogir gan y sector cyhoeddus yng Nghymru
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.